Ydych chi'n chwilio am swydd lawn amser ar ôl graddio?
Dechreuwch eich gyrfa ar y brig, nid ar y gwaelod
(a chewch aros yn Aberystwyth am flwyddyn arall).
Does dim llawer o raddedigion yn gallu honni eu bod nhw'n ymddiriedolwr mudiad o fewn blwyddyn ar ôl graddio. Mae ein swyddogion yn cael cyfleoedd unigryw i gydlynu / rwydweithio ag uwch staff prifysgol a gweithio gyda ffigurau cyhoeddus amlwg. Yn aml, mae ein swyddogion yn mynd ati i gael gyrfa wych ac mae llawer o fudiadau'n awyddus iawn i recriwtio swyddogion UMau.
Bydd pob dydd yn y swyddfa yn wahanol ond gallwch ddisgwyl datblygu'r sgiliau:
· Ymgyrchu strategol
· Rheoli digwyddiadau
· Siarad a chysylltiadau cyhoeddus
· Cyfathrebu
· Rheoli cyllideb
· Polisïau a gweithdrefnau mewn gweithle
· Arweinyddiaeth a chadeirio pwyllgorau
· Gweithio mewn tîm
· a llawer, llawer mwy
Cofiwch, mae dal y rôl yn golygu mai chi sy'n ei llywio, a chewch gyfle i ganolbwyntio ar y sgiliau rydych chi am eu datblygu.
Bydd eich blwyddyn yn y swydd yn caniatáu i chi addasu i amrywiaeth o rolau newydd, gan agor cyfleoedd ar gyfer y dyfodol. Darperir hyfforddiant ar gyfer pob swyddog etholedig, ynghyd â chefnogaeth ac arweiniad i gyflawni eu rôl a throi eu hamcanion yn realiti.
Felly pam ydych chi'n oedi? Sefwch heddiw drwy fynd i www.umaber.co.uk/etholiadau