Awgrymwch fyfyriwr heddiw!

Os ydych chi'n adnabod rhywun a fyddai'n ymgeisydd perffaith i sefyll yn Etholiadau'r Swyddogion eleni, rhowch wybod i ni drwy gwblhau ein ffurflen ar-lein.

welsh
No ratings yet. Log in to rate.

Ydych chi'n adnabod rhywun a fyddai'n Llwyddo er Llesiant? Cadeirydd creadigol? Arweinydd i Lanbadarn?

Os ydych chi'n adnabod rhywun a fyddai'n ymgeisydd perffaith i sefyll yn Etholiadau'r Swyddogion eleni, rhowch wybod i ni drwy gwblhau ein ffurflen ar-lein.

Byddwn ni'n cysylltu â'r myfyrwyr a gaiff eu hawgrymu ac yn rhoi gwybod iddynt fod rhywun yn meddwl y bydden nhw'n swyddog gwych yn yr Undeb ac yn annog iddynt sefyll.

Fyddwn ni ddim yn dweud wrthyn nhw, ond mae croeso i chi eu hannog yn bersonol. Weithiau gall tipyn bach o anogaeth gan wyneb cyfarwydd wneud byd o wahaniaeth!

Cofiwch cewch awgrymu cymaint o fyfyrwyr ag y dymunwch!

Comments