Bingo Lingo
#HeloAber
PRIFYSGOL ABERYSTWYTH, byddwch yn barod. Mae Taith y Glas Bingo Lingo y DU yn gwerthu allan bob blwyddyn ac yn dod i’ch UM Ddydd Sul y 26ain o Fedi a Dydd Sul y 3ydd o Hydref!
Mae tocynnau yn gwerthu allan ymlaen llaw, felly trefnwch eich grwpiau yn ddigon cynnar i osgoi colli’r dyddiad dych chi ei eisiau. 8 person y bwrdd.
Paratowch ar gyfer profiad o gystadlaethau dawnsio, twercio, creu helynt ar y llwyfan a gwobrau heb ei ail a fydd yn newid eich bywyd am byth... Mi fydd yn noson byth gofiadwy o wallgofrwydd BINGO LINGO!
-Drysau -18:00
-Mynediad olaf – 19:30
-8 person y bwrdd
- Rowndiau Rhyfeddol a Brwydrau ar y Llwyfan
-Gwobrau a fydd yn newid eich bywyd am byth
Ni yw BINGO LINGO.
Yn fwy rhagweithiol, mentrus a hwyliog nag unrhyw gêm bingo a welwyd erioed, mae Bingo Lingo yn ailddiffinio’r gêm draddodiadol o Bingo, gan ei throi’n noson unigryw, llawn hwyl swnllyd a gwallgofrwydd di-baid sy’n cynnwys pawb, gyda gwobrau a fydd yn newid eich bywyd am byth!
Rydyn ni wedi cymryd Bingo a’i droi’n brofiad rhyngweithiol sy’n plesio pawb, boed yn rêfars, mynychwyr gwyliau, neu yn bartïon corfforaethol. Fformwla brofedig a llwyddiannus iawn sy’n cynnwys y dorf, dan ofal cymeriadau llachar y galwyr Bingo. Rydyn ni wedi creu profiad cwsmer heb ei ail sydd wedi ennill statws cwlt ledled y DU a’r tu hwnt. Gwobrau a fydd yn newid eich bywyd am byth!
I gael yr holl delerau ac amodau, ewch i bingolingo.club
TOCYNNAU AR GAEL NAWR!
Digwyddiad swyddogol yn cael ei westeio gan y Brifysgol a Undeb y Myfyrwyr**