The Red Shed - Ganolfan y Celfyddydau Aberystwyth.
I archebu tocynnau ewch i wefan Go Faster Stripe. Bydd rhan o'r elw yn cael ei rhoi i Ganolfan y Celfyddydau Aberystwyth.
Mae The Red Shed yn rhan o drioleg theatrig Mark, yn dilyn y sioeau uchel eu parch, Bravo Figaro a Cuckooed. Dychwelodd Mark i’r man lle cychwynnodd y cyfan - y Red Shed, clwb llafur yn Wakefield - i ddathlu pen-blwydd y clwb yn 50 oed wrth iddo barhau â’i daith yn 2017 o berfformiad clodwiw, gwobrwyiedig.
Mae The Shed, sy’n gartref i berfformiadau cyhoeddus cyntaf Mark, hefyd yn gartref i anghytuno, i drefnu ac i wleidyddiaeth flaengar, ac felly dyma fan cychwyn gwir allu gwleidyddol Mark. Yn lle eiconig a hanfodol i'w gefnogwyr, dyma le mae gwir ystyr undod i'w gael a lle gallwch chi fod yn rhan o hanes ac yn rhan o'r frwydr. Yn llanc o dde Llundain, a anwyd i fyd Thatcheraidd o adeiladwyr, llafurwyr a masnachwr hunangyflogedig fel ei dad lle mae’r unigolyn yn allweddol, deffrodd cymuned lafur draddodiadol estron Wakefield angerdd newydd yn Mark a newidiodd ei fywyd am byth.
Wrth gyfweld â hen ffrindiau a chymrodyr, mae Mark yn cyfuno hanes y clwb ac yn gweithio wrth ei ochr i ymgyrchu gyda rhai o weithwyr tlotaf y wlad. Dyma stori'r frwydr am obaith a goroesiad cymuned. Mae'n stori am streiciau, ymladd, merched cinio, cwrw crap, cwrw da, ffrïwyr byrgers, picedwyr, placardiau, comisiynau, cyfeillgarwch, cariad, hanes, breuddwydion ac, yn anad dim, cofio. Yn rhannol theatr, yn rhannol stand-yp, yn newyddiaduraeth rannol, yn rhannol actifyddiaeth, mae Mark yn sylweddoli ei obsesiwn gyda'r gymuned a brwydro.