Cwrdd a Chyfarch y Myfyrwyr Annibynnol
Mae digwyddiadau Cwrdd a Chyfarch yn gyfle i fyfyrwyr sy'n uniaethu â’i gilydd i gwrdd â myfyrwyr eraill mewn amgylchedd diogel a chyfeillgar. Caiff y sesiynau hyn eu trefnu gan Staff, Swyddogion neu Bwyllgorau Cymdeithasau, ac maen nhw’n rhoi cyfle i rannu pryderon, gofyn cwestiynau a dod o hyd i gymuned o fyfyrwyr o gefndir tebyg. Mae'r sesiwn hon ar gyfer y rhai sy’n diffinio fel Myfyrwyr Annibynnol. Mae Myfyrwyr Annibynnol (a ddisgrifir weithiau fel Myfyrwyr Heb Gymorth) yn derm ymbarél sy'n cwmpasu unigolion sy'n hunan-ddiffinio fel rhywun sydd wedi gadael gofal, myfyrwyr sydd wedi ymddieithrio, ffoaduriaid, gofalwyr ifanc neu rieni mewn addysg.