Academi’r Ymgeiswyr
Academi’r Ymgeiswyr yw eich cyfle i ganfod popeth rydych angen ac eisiau ei wybod am ymgeisio yn etholiadau UM Aber. Yn y sesiwn byddwch yn…
- Dysgu ynglyn â’r rolau sydd ar gael a’r gwahaniaethau rhyngddyn nhw.
- Sut mae’r gwahanol rolau’n perthyn i Undeb y Myfyrwyr ac yn ei arwain.
- Dyddiadau a gwybodaeth allweddol sy’n ymwneud â’r broses etholiadol
- Cyfle i ofyn cwestiynau.
Mae croeso i holl fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth – does dim angen i chi fod â gwybodaeth ymlaen llaw am y swyddi, yr etholiadau neu hyd yn oed Undeb y Myfyrwyr. Nid yw mynychu’r digwyddiad hwn yn golygu eich bod yn ymrwymo i sefyll fel ymgeisydd.