Picnic Wrth Wylio Dolffiniaid
Mae Canolfan Bywyd Gwyllt y Môr Bae Ceredigion yn chwilio am wirfoddolwyr i helpu i gynnal arolwg o'r dolffiniaid a'r anifeiliaid eraill yn Harbwr Aberystwyth.
Dewch i ddarganfod popeth am 3 Mawr Bae Ceredigion, dysgu sut i adnabod rhywogaethau morol a chynnal arolwg o fywyd gwyllt.
Bydd croeso i bawb a does dim angen unrhyw brofiad! Dewch i gwrdd ger y Gofeb Rhyfel.
Cewch wirfoddoli am gyn lleied neu gymaint o amser ag y dymunwch.
Gwisgwch ddillad addas (e.e. dillad sy'n dal dwr a het) a dewch â photel fach o ddwr.
Bydd y gweithgaredd hwn yn cael ei ohirio os bydd gwyntoedd cryfion, glaw trwm ar y diwrnod.
Os byddwch chi'n gwirfoddoli unrhyw bryd yn ystod yr wythnos, sicrhewch eich bod chi'n rhoi gwybod i ni am yr hyn rydych chi'n ei wneud trwy ddefnyddio'r hashnodau #SVW2018 #GwirfoddoliAber