Digwyddiad Gwau Elusennol
Hoffech chi ddysgu sut i wau neu grosio? Hoffech chi wneud rhywbeth at elusen?
Yna dewch draw i Ystafell Lesiant Undeb y Myfyrwyr lle bydd y Gymdeithas Wau yn barod i ddysgu sgiliau gwau neu grosio sylfaenol os ydych chi'n ddechreuwr. Neu, os ydych chi'n fwy profiadol, cewch ddod i ddysgu sgiliau newydd a chyfrannu'ch amser i wneud eitem at elusen!
Cewch alw heibio unrhyw bryd yn ystod y digwyddiad.
Darperir gwlân ac offer.
Os byddwch chi'n gwirfoddoli unrhyw bryd yn ystod yr wythnos, sicrhewch eich bod chi'n rhoi gwybod i ni am yr hyn rydych chi'n ei wneud trwy ddefnyddio'r hashnodau #SVW2018 #GwirfoddoliAber